Click Here to Read The English Version
LIDL YW’R ARCHFARCHNAD GYNTAF YNG NGHYMRU I GYFLAWNI ARDYSTIAD Y CYNNIG CYMRAEG
Rydym yn falch o fod yr archfarchnad gyntaf yng Nghymru i gyflawni'r dystysgrif Cynnig Cymraeg glodwiw gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Yma yn Lidl, rydym wedi ymrwymo i ddiwylliant a threftadaeth Cymru, ac wedi bod yn gweithio'n galed i gefnogi'r broses o gyflwyno a chynnwys y Gymraeg yn ein 55 o siopau yng Nghymru. Mae'r dystysgrif hon yn cydnabod ymrwymiad parhaus Lidl i'r achos hwn.
Datblygwyd y cynllun Cynnig Cymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg i gydnabod yn swyddogol fusnesau sydd â chynllun clir ar gyfer darparu a diogelu gwasanaethau Cymraeg. Mae'n cefnogi cynllun hirdymor y Comisiynydd i sicrhau y gall pobl ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar eu bywydau, ym mhob rhan o Gymru.
Yr hyn y byddwch yn dod ar ei draws yn ein siopau yng Nghymru
Rydym wedi cyflwyno gwasanaethau Cymraeg ar draws pob agwedd ar ein busnes yng Nghymru, gan gynnwys:
· Arwyddion iaith ddeuol
· Cyhoeddiadau yn y siop
· Bathodynnau enw gweithwyr
· Llinellau cymorth gwasanaeth cwsmeriaid a gohebiaeth ysgrifenedig
· Deunydd pacio ar yr holl gynnyrch o Gymru
· Rhai desgiau talu hunanwasanaeth
· Diweddariadau perthnasol ar y cyfryngau cymdeithasol
Mae'r Gymraeg, a chynnyrch o Gymru, yn bwysig i ni
Yma yn Lidl rydym yn falch o gynnig y cynnyrch lleol mwyaf ffres, ac rydym wedi lansio dewis newydd o gynhyrchion cig eidion o Gymru yn rhan o'n hymrwymiad i gefnogi ffermwyr lleol. Trwy weithio'n uniongyrchol gyda ffermwyr a theuluoedd sy'n ffermio, gellir olrhain y cynhyrchion o'r cae i'r siop; mae hyn yn galluogi siopwyr yng Nghymru i fwynhau cig eidion a fagwyd yn lleol ac sydd o'r ansawdd uchaf. Caiff y statws hwn ei gydnabod ymhellach gan farc Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig y cig.
Mae ein dewis o nwyddau o Gymru yn cynnwys 70 o gynhyrchion sy'n cwmpasu cynnyrch llaeth blasus, cigoedd cartref, a danteithion melys. Cewch flas o'r hyn yr ydym yn ei gynnig yma.
Rydym yn teimlo'n angerddol ynghylch y cymunedau yr ydym yn gweithredu ynddynt, a byddwn yn parhau i chwilio am ffyrdd y gallwn gefnogi'r Gymraeg, sy'n rhan mor bwysig o hunaniaeth a threftadaeth ein cymunedau.